Logo
Y Bartneriaeth

Y Bartneriaeth

Nôd y Bartneriaeth yw dod a pobl at ei gilydd i gyfrannu at ddatblygiad a gwireddu cyd-weledigaeth i ddiogelu a gwella’r amgylchedd ar dir a môr.

Mae aelodaeth y Bartneriaeth yn cynnwys cynrychiolaeth o’r tri sector isod:

  • Cyhoeddus
  • Busnes a Chymdeithasol
  • Gwirfoddol a Chymunedol

Prif amcanion y Bartneriaeth ydi:

  • Rhoi llais blaenllaw i Wynedd ym mholisiau   cenedlaethol.
  • Dylanwadu ar ddatblygiad a gweithrediad y Strategaeth Gymunedol
  • Dylanwadu mewn dull pro-actif ar bolisiau gwahanol asiantaethau.
  • Hyrwyddo cyd-weithio a rhannu gwybodaeth ac arbenigedd mewn sawl maes gan gynnwys datblygu polisiau a phrosiectau
  • Llenwi bylchau a chanfod chyfleon yn y gwaith amgylcheddol yng Ngwynedd
  • Codi ymwybyddiaeth ymysg trigolion Gwynedd am yr amgylchedd a’n heffaith arno
  • Annog pobl Gwynedd i gyd-weithio i wella’r amgylchedd
  • Datblygu a hybu syniadau arloesol a’u marchnata fel esiampl dda
  • Hybu gwerth ansawdd bywyd amgylchedd Gwynedd.
  • Hyrwyddo gwerth economaidd, cymdeithasol, a lles iechyd yr amgylchedd

Mae’r aelodau yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd, Cyngor Cefn Gwlad, Prifysgol Cymru Bangor, Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Asiantaeth yr Amgylchedd, Adran Arloesi, Mentergarwch a Rhwydweithio Llywodraeth y Cynulliad (WDA gynt), Undeb Amaethwyr Cymru, Snowdonia Active, Medrwn, Antur Waunfawr, Cymdeithas Eryri, Cymunedau’n Gyntaf, Gwynedd Gynaladwy a CPRW.

Level Triple-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0