Cystadleuaeth Gerddi Bwyd - 20/05/2013
Mae Partneriaeth Amgylcheddol Gwynedd wedi lawnsio Cystadleuaeth Gardd Fwyd ar gyfer 2013 er mwyn annog pobl i dyfu bwyd eu hunain.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i erddi sy’n cynhyrchu ffrwythau, llysiau neu berlysiau yng Ngwynedd pa bynnag raddfa – o botiau ar silff ffenestr i ddarn o dir. Eleni mae dwy gategori yn y gystadleuaeth – (1) Gerddi Preifat a (2) Ysgolion.
Mae’r gystadleuaeth wedi ei noddi’n garedig gan Ganolfan Arddio Fron Goch, Caernarfon a bydd yr ennillwyr yn derbyn £25 mewn tocynnau i’w gwario yn y ganolfan.
Mae'r ffurflen gais ar gael trwy glicio yma.
Cysylltwch PartneriaethAmgylcheddol@gwynedd.gov.uk neu ffonio 01286 679652 ar gyfer gwybodaeth bellach. Y dyddiad cau ar gyfer ysgolion ydi 15ed Gorffennaf 2013 a 27ain Medi 2013 ar gyfer gerddi preifat.
