Logo
Newyddion

Cystadleuaeth Gerddi Bwyd Gwynedd - 23/06/2010

Mae cyfle i arddwyr o Wynedd ennill gwobr arbennig trwy dyfu ffrwythau a llysiau.

Mae Partneriaeth Amgylcheddol Gwynedd a Gwynedd Gynaladwy wedi lawnsio Cystadleuaeth Gardd Fwyd er

mwyn annog pobl i dyfu bwyd eu hunain.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i erddi sy’n cynhyrchu ffrwythau, llysiau neu berlysiau yng Ngwynedd

pa bynnag raddfa – o botiau ar silff ffenestr i ddarn o dir.  Eleni mae dau gategori yn y gystadleuaeth – Gerddi Preifat ac Ysgolion. 

Bydd yr ennillwyr yn derbyn £50 mewn tocynnau i’w gwario yn eu canolfan arddio lleol.

Gall garddwyr o bob oedran a phrofiad gymryd rhan ac mae galw arbennig ar i rai sy’n newydd i arddio gamu ymlaen.  Mae’r Bartneriaeth eisiau clywed am yr amrywiaeth o gynnyrch rydych yn ei dyfu, a dysgu am eich profiadau ac unrhyw broblemau.

Am ffurflen gais, cysylltwch â Partneriaeth Amgylcheddol Gwynedd trwy ebostio PartneriaethAmgylcheddol@gwynedd.gov.uk neu ffonio 01286 679652.  Y dyddiad cau ydi dydd Gwener, 24 Medi 2010. 

 

 

Level Triple-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0