Prosiect Mesuryddion Ynni - 26/11/2009
Gall pawb wneud newidiadau bach i’r ffordd rydym yn byw er budd yr amgylchedd, ac mae defnyddio llai o ynni o gwmpas y cartref yn ddechrau da.
Mae Partneriaeth Amgylcheddol Gwynedd wedi lansio cynllun peilot yn ardal Blaenau Ffestiniog i roi benthyg mesuryddion ynni i’r gymuned leol fel gall teuluoedd fonitro a lleihau faint o ynni maent yn ei ddefnyddio.
Bydd y bartneriaeth yn cydweithio gydag Ysgol Manod ac Ysgol Maenofferen, ac yn rhoi cyfle i ddisgyblion a’u teuluoedd gael benthyg mesuryddion i fynd adref gyda nhw. Mae’r ddwy ysgol eisoes wedi derbyn mesuryddion ar gyfer monitro trydan yn y dosbarth sy’n golygu fod yr ysgolion yn gallu arbed ynni.
Drwy gwtogi faint o ynni rydym yn ei ddefnyddio rydym yn lleihau faint o garbon sy’n cael ei ryddhau. Mae allyriad carbon yn gallu cyfrannu at gynhesu byd eang - rhywbeth sy’n poeni nifer fawr o bobl ar hyn o bryd. Mae torri yn ôl ar ddefnydd ynni hefyd yn golygu arbed arian ar filiau trydan.
Fel rhan o’r cynllun bydd y plant yn gorfod nodi’n ddyddiol faint o drydan a ddefnyddir yn eu cartrefi, ac yn cael eu hannog i fod yn bencampwyr ynni trwy atgoffa eu teuluoedd i arbed ynni. Bydd pob plentyn yn derbyn tystysgrif arbennig ar ddiwedd y cynllun.
Dywedodd Carys Jones, Pennaeth Ysgol Manod: “Rydym yn falch iawn o gael cymryd rhan yn y cynllun yma yn enwedig gan ein bod yn edrych ar ffyrdd i arbed ynni er mwyn gweithio tuag at ennill Gwobr Aur Ysgolion Gwyrdd.
Ychwanegodd Meri Jones, Pennaeth Ysgol Maenofferen: “Dyma ffordd dda o godi ymwybyddiaeth plant a’u teuluoedd o bwysigrwydd arbed ynni er budd ein hamgylchedd a chenhedlaethau y dyfodol.”
Mae’r mesuryddion yn gweithio trwy fesur y llif trydan i’r cartref pan mae offer trydanol yn cael ei droi ymlaen. Caiff y data ei arddangos ar y monitor yn nhermau cost, CO2 a gynhyrchir a’r trydan a ddefnyddir.
Mae ystadegau’n dangos, trwy fonitro’r defnydd o drydan ar y mesuryddion, mae’n bosib gwneud arbediad o tua Ł125 y flwyddyn ar filiau trydan, ac arbed tri chwarter tunnell o CO2.
Trwy ddilyn nifer o gamau syml i arbed ynni yn y cartref gall pawb wneud arbedion mawr yn y CO2 a gynhyrchir - ac arbedion mewn biliau trydan. Dyma enghreifftiau o beth gallwch chi ei wneud heddiw:
• Trowch eich golau i ffwrdd wrth adael yr ystafell bob tro
• Newidiwch eich bylbiau golau i rai ynni effeithiol - maent yn defnyddio 25% yn llai o ynni na bylbiau arferol ac yn para 12 gwaith yn hirach.
• Llenwch y peiriant golchi dillad neu lestri – mae un llwyth llawn yn defnyddio llai o ynni na dau hanner llwyth.
• Cofiwch hefyd i osod y peiriant golchi dillad ar 30 gradd selsiws
• Sychwch ddillad ar y lein yn hytrach na pheiriant sychu dillad – cofiwch y gall un llwyth dillad gostio rhwng 30c a 70c i’w sychu mewn peiriant
• Peidiwch â gadael offer trydanol ymlaen ar ‘standby’ - trowch nhw i ffwrdd yn gyfan gwbl yn y swîts ar y wal
• Peidiwch â gorlenwi’r tegell – dim ond berwi yr hyn sydd ei angen.
Am fwy o wybodaeth ar sut y medrwch warchod yr amgylchedd ewch i www.pagwynedd.org ; ffôn 01286 679652 neu e-bost PartneriaethAmgylcheddol@gwynedd.gov.uk
