Logo
Cyfeiriadur

Grantiau

Mae gan Amgylchedd Cymru bump o ffrydiau grant, a ddyfeisiwyd i helpu prosiectau ym mhob cam o'u datblygiad
--------------------------
Cynllun grantiau Loteri yw Arian i Bawb sydd rhwng £500 a £5,000 ar gyfer prosiectau sy’n galluogi i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddyd, chwaraeon, treftadaeth a chymunedol, yn ogystal â phrosiectau sy’n hyrwyddo addysg, yr amgylchedd a iechyd yn y gymuned leol.
--------------------------

Gall ysgolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau elusennol geisio am nawdd gan eu B&Q lleol i gefnogi prosiect cymunedol lleol.  Rhoir grantiau rhwng £50 a £500.

--------------------------

Mae Biffa Award yn cefnogi nifer o brosiectau ar draws y wlad sy'n gwella cymunedau neu bioamrywiaeth.

--------------------------
CAE
Mae CAE yn gronfa gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar gyfer prosiectau datblygu cynaladwy sy’n annog lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd eich cymuned
--------------------------

Bwriad Cronfa Cynaliadwyedd Gwynedd yw cefnogi cynlluniau sydd yn hyrwyddo datblygu cynaliadwy yng nghymunedau Gwynedd.

Am fwy o fanylion ewch i wefan Cyngor Gwynedd.

--------------------------
Bwriad y Gronfa Prosiectau Cymunedol Bychan yw cynorthwyo pobl sy’n byw o fewn y Parc Cenedlaethol i ddechrau prosiectau fydd o fudd i’w cymunedau a’u hamgylchedd lleol
--------------------------
Mae'r rhaglen Amgylcheddol yn cefnogi gwellianau amgylcheddol sy'n cyfarfod anghenion pobl a bywyd gwyllt
--------------------------
Mae'r grant yma ar gael i berchnogwyr tai,  sefydliadau cyhoeddus, di-elw a masnachol ar draws Prydain ar gyfer technoleg ynni adnewyddol.
--------------------------
Mae'r Naturesave Trust yn cynnig cefnogaeth i brosiectau amgylcheddol a chadwraethol ac yn cynnig grantiau rhwng £100 a £10,000.
--------------------------
Level Triple-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0