Logo
Gwybodaeth

Tyfu cynnyrch eich hun

Plannu coed

Planwch goeden ffrwythau yn eich gardd.  Bydd yn amsugno CO2 o’r aer, yn rhoi cysgod mewn tywydd poeth ac yn amsugno dŵr pan yn rhy wlyb.

Llysiau a ffrwythau

Rhowch dro ar dyfu eich llysiau neu ffrwythau eich hun.  Mi fyddwch yn arbed arian ac yn cael cyflenwad o fwyd iach.

Os nad oes gennych ardd cysylltwch gyda’r Cyngor i weld a oes rhandir (allotment) ar gael yn eich ardal.  Opsiwn arall fyddai tyfu dail salad neu berlysiau mewn potiau neu focs ffenest.  Yr oll sydd ei angen yw pot/bocs, pacedi hadau, compost a dyfrio’n achlysurol.

Blodau

Yn hytrach na phrynu tusw blodau sydd wedi teithio miloedd o filltiroedd i’n cyrraedd, tyfwch flodau eich hunain.  Edrychwch ar y pacedi hadau i weld pa flodau sy’n addas i’w torri.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.bbc.co.uk/gardening ac www.rhs.org.uk

Level Triple-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0