Logo
Gwybodaeth

Cynhyrchu ynni eich hun

Solar PV
Mae Solar photovoltaic (PV) yn defnyddio ynni o'r haul i greu trydan i redeg offer trydanol a golau.  Mae PV yn defnyddio golau dydd - nid golau haul - i gynhyrchu trydan. 

Biomass
Defnydd organic yr biomass sydd wedi dod yn uniongyrchol o blanhigion neu'n anuniongyrchol o gynnyrch diwydiant, masnach, amaeth neu ddomestig.  Dydi biomass ddim yn cynnwys tanwydd ffosil, sydd wedi cymryd miliynau o flynyddoedd i ddatblygu.  Mae'r CO2 sy'n cael ei ryddhau pan gynhyrchir ynni o biomass yn cael ei gydbwyso gan y CO2 a amsugnir yn y broses o gynhyrchu'r tanwydd.  Gelwir hyn yn broses carbon niwtral. 

Gall boiler biomass arbed hyd at £350 y flwyddyn mewn biliau ynni.

Tyrbinau gwynt
Mae melinau gwynt modern yn defnyddio grymoedd codi gwynt i droi llafnau aerodynamig sy'n troi rotor i greu trydan.  Mae melinau bach ar gyfer adeiladau sy'n addas ar gyfer ardaloedd trefol ar gael i'w gosod mewn cartrefi ac adeiladau eraill. 

Hydro Graddfa Fechan
Mae systemau hydro yn newid ynni sydd wedi ei storio mewn dwr wedi ei storio ar uchder i ynni cinetig (neu'r ynni ddefnyddir mewn symudiad) i droi tyrbein i gynhyrchu ynni. 

Dwr Poeth Solar Thermal                            Mae systemau cynhesu dwr solar yn defnyddio gwres o'r haul i weithio gyda cynhesydd dwr confensiynol. 

Ground Source Heat Pumps
Mae ground source heat pumps (GSHP) yn trosglwyddo gwres o'r ddaear i'r adeilad i roi gwres a, mewn rhai, yn gwresogi dwr poeth domestig. Solar PV

 

 

Level Triple-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0