Logo
Gwybodaeth

Offer trydanol

Trowch i ffwrdd
Peidiwch a gadael offer trydanol fel y teledu ar 'standby'.

Ffonau symudol
Peidiwch a gadael ffonau symudol yn y soced ar ol i'r batri fod yn llawn.  

Edrychwch am y logo
Pan yn prynu offer trydanol edrychwch am y logo effeithlonrwydd ynni a dewisiwch offer  gradd A neu B.

Golchwyr
Pan yn golchi dillad defnyddiwch lwyth llawn neu trowch y golchwr i economi.  Hefyd, gallwch droi'r golchwr i olchi ar dymheredd isel yn effeithiol. 

Sychu dillad
Sychwch eich dillad ar y lein yn hytrach na pheiriant sychu.  Os oes rhaid defnyddio peiriant sychu cofiwch i wasgu y dwr o'r dillad neu eu rhoi ar spin er mwyn eu sychu ynghynt.  

Level Triple-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0