Logo
Y Bartneriaeth

Pwy sydd ar y Bartneriaeth?

Gall unrhyw un, boed hynny yn unigolyn, busnes neu rhywun sydd yn cynrychioli sefydliad fod ar y Bartneriaeth Amgylcheddol, os ydynt yn cytuno gyda'n hamcanion.

Er mwyn bod yn aelod o'r Grwp Llywio rhaid i aelod gael ei ethol o un o dri sector:

  • cyhoeddus
  • busnes a chymdeithasol
  • gwirfoddol a chymunedol

Bydd yr aelodau hyn yn cael eu hethol yng Nghyfarfod Blynyddol y Bartneriaeth.

O'r sector gyhoeddus mae cynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd, Cyngor Cefn Gwlad, Prifysgol Cymru Bangor, Awdudrdod y Parc Cenedlaethol, Asiantaeth yr Amgylchedd ac Adran Arloesi, Mentergarwch a Rhwydweithio Llywodraeth y Cynulliad (WDA gynt).

O'r sector fusnes a chymdeithasol mae cynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru, unigolion o fusnesau lleol, Snowdonia Active, Medrwn, ac aelodau o gymdeithasau masnachwyr lleol.

Mae'r sector wirfoddol a chymunedol yn cael ei chynrychioli yn wych gydag aelodau o Antur Waunfawr, Cymdeithas Eryri, Cymunedau'n Gyntaf, Gwynedd Gynaladwy a CPRW.

Fel aelod o'r Grwp Llywio bydd rhaid mynychu'r cyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal.

Rol y Grwp Llywio ydy blaenoriaethu rhaglen waith y Bartneriaeth. Bydd y Bartneriaeth yn cael cynnig materion i'w trafod a'r Grwp wedyn yn penderfynu pa ffordd i fynd ati i weithredu. 

Level Triple-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0